O’r dde: Jo Knell, Swyddog Datblygu’r Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru; Geraint Wilson-Price, Cadeirydd Pwyllgor y Dysgwyr Eisteddfod 2010; John Griffiths AC; Des Hillman, arweinydd Cyngor Blaenau Gwent; Sarah Meek, swyddog datblygu Cymraeg i Oedolion Blaenau Gwent.
Meddai Geraint Wilson-Price, Cadeirydd Pwyllgor y Dysgwyr, Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd:
Gydag Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn prysur agosáu, lansiwyd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2010 mewn dosbarth Cymraeg i oedolion yng Nglyn Ebwy.
Mae’r gystadleuaeth, a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Cwm Rhymni, 1990, yn gyfle i ddathlu cyfraniad dysgwyr i’r iaith, i’n cymunedau ac i Gymru gyfan, ac wedi ennill ei phlwyf fel un o brif weithgareddau’r Eisteddfod yn flynyddol.
“Mae’n braf lansio’r gystadleuaeth arbennig hon unwaith eto eleni. Dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld cystadlu brwd gan ddysgwyr ardderchog, ac rwy’n sicr y bydd y safon yn arbennig o uchel yn 2010. Mae hon yn gystadleuaeth bwysig iawn, nid yn unig er mwyn codi proffil a dathlu cyfraniad dysgwyr, ond hefyd fel ffordd o ddatblygu hunan hyder unigolion sy’n dysgu Cymraeg.’
Ychwanegodd, ‘mae’n ddiddorol edrych yn ôl ar y cyfnod ers cynnal y gystadleuaeth am y tro cyntaf – a hynny’n agos iawn at gartref yr Eisteddfod yn 2010. Rydym wedi gweld twf aruthrol yn nifer y rheini sy’n siarad ac yn dysgu Cymraeg yn lleol dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, ac mae dosbarthiadau fel yr un yma yng Nglyn Ebwy’n rhan bwysig o’r twf a’r llwyddiant hwn. Braf felly yw dod yma ar gyfer y lansiad hwn.’
Bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2010 yn derbyn tlws arbennig wedi’i gynllunio gan Angelina Hall, artist o ardal Penarth sy’n adnabyddus am ei gwaith mewn gwydr lliw, a rhoddir y tlws a’r wobr ariannol gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent.
Mae Gŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol yn denu tua 160,000 o ymwelwyr yn flynyddol, a cheir mynediad am ddim i holl weithgareddau’r Ŵyl am bris tocyn maes dyddiol. Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy o 31 Gorffennaf – 7 Awst 2010.